SL(6)146 - Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwahardd:

·         cychod pysgota o lai na 12 metr o hyd sydd wedi eu trwyddedu (sy’n pysgota yng Nghymru neu ym mharth Cymru), a

·         cychod pysgota Cymreig o lai na 12 metr o hyd (sy’n pysgota ym mha le bynnag y bo’r cwch),

rhag ymgymryd â gweithrediadau pysgota heb system monitro cychod pysgota (“VMS”). Rhaid i wybodaeth benodol (gan gynnwys lleoliad daearyddol, dyddiad, amser, cyflymder a chwrs y cwch) gael ei throsglwyddo o VMS pob cwch i Weinidogion Cymru o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o 10 munud tra'n ymgymryd â gweithrediadau pysgota.  

Gweithdrefn

Dim gweithdrefn

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.7(i) – unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a osodir gerbron y Senedd ac eithrio is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i Weithdrefn Arbennig y Senedd o dan Reol Sefydlog 28

Mae erthygl 3 o'r Rheoliadau hyn yn creu trosedd newydd. Mae paragraff (1) yn darparu na chaiff cwch pysgota ymgymryd â gweithrediadau pysgota oni bai y bodlonir gofynion y paragraff hwnnw (hynny yw, bod dyfais fonitro ar ei fwrdd a throsglwyddo’r wybodaeth ofynnol i Weinidogion Cymru). Mae paragraff (2) yn darparu bod y person sydd â gofal am y cwch yn euog o drosedd os defnyddir y cwch pysgota yn groes i baragraff (1).

Mae’r drosedd newydd a grëwyd gan erthygl 3(2) yn drosedd sy’n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy ddiderfyn.[1]

2. Rheol Sefydlog 21.7(i) – unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a osodir gerbron y Senedd ac eithrio is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i Weithdrefn Arbennig y Senedd o dan Reol Sefydlog 28

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 5(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968. Nid yw Gorchmynion a wneir o dan yr adran honno yn ddarostyngedig i weithdrefn y Senedd.[2]

Mae creu trosedd newydd yn fater arwyddocaol, ac fel arfer disgwylir y byddai offeryn statudol sy’n gwneud hynny yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol (o leiaf). Fodd bynnag, yn yr achos hwn mae'r pŵer galluogi dros hanner canrif oed.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.


Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

1 Chwefror 2021



[1] Yn rhinwedd adran 5(4) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968

[2] Adran 18(2) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968